| Stephen Jones: O Clermont i Nantes Stephen Jones Llyfrau eraill gan Stephen Jones
Ar ol cael ei ddewis yn faswr y flwyddyn yn Ffrainc a dod yn arwr i gefnogwyr Clermont Auvergne, roedd dod nol i'r Strade a chael ei benodi'n gapten Cymru yn dipyn o newid byd i Stephen Jones.
Gyda phwysau'r wasg a Chymru gyfan ar ei ysgwyddau, cafodd flwyddyn gythryblus, gan gyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan Heineken gyda'r Sgarlets a thymor rhwystredig ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda Chymru.
Yma cawn gipolwg ar ei fywyd personol, hynt a helynt carfan Cymru a'r Sgarlets, a darlun diddorol tu hwnt ar fywyd a rygbi yn Ffrainc. I gloi, ceir ei farn onest ar ymdrechion Cymru wrth iddo ddychwelyd i'r wlad honno ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd.
ISBN: 9781847710161
Adran: Cofiannol Chwaraeon
Iaith: Cymraeg
£8.95 Allan o brint
Gellir lawrlwytho'r cyhoeddiad yma fel eLyfr, pris: £6.95 Ffurf(iau) ar gael: .epub; Beth yw 'epub'?
Mwy am eLyfrau Y Lolfa
|
|